Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 3 Hydref 2017
Amser:
09.30 -
10.39
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Jayne Bryant AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Paul Davies AC Llyr Gruffydd AC |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) Owain Roberts |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor.
1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Trafododd yr aelodau y llythyr a gofynnodd am wybodaeth briff cyfreithiol manwl a bydd yn dychwelyd at y mater hwn yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.
4.1 Trafododd yr Aelodau yr Adroddiad Monitro Grŵp Trawsbleidiol a baratowyd gan y Swyddfa Gyflwyno ar gyfer y Pwyllgor yn unol â pharagraff 44 o'r rheolau ar weithrediad y Grwpiau Trawsbleidiol.
4.2 Cytunodd yr Aelodau y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at y Llywydd gyda chamau awgrymedig ar y Grwpiau Trawsbleidiol nad ydynt wedi cydymffurfio â'r rheolau ac wedi eu categoreiddio wedyn yn Gategorïau B ac C yr Adroddiad.
5.1 Trafododd yr Aelodau ar yr adroddiad drafft. Caiff adroddiad diwygiedig ei drafod yn y cyfarfod nesaf.